Cywaith Cymru Artworks wales - tY Corff Cenedlaethol ar Gyfer Celfyddyd Cyhoeddus yng Nhymru
Cloc Haul Porthcawl | Porthcawl Sundial | artist: Andrew Rowe ; pic © David Symons
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Ty Crichton
11-12 Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5EE
Ffôn: 029 2048 9543
Ffacs: 029 2046 5458

 

 

cyflwyniad comisiynau artistiaid preswyl swyddi prosiectau arbennig adran y wasg map y gwefan cysylltwch archif

Cyflwyniad i Cywaith Cymru

Cywaith Cymru . Artworks Wales yw’r mudiad cenedlaethol ar gyfer celf cyhoeddus yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn 1981 i annog gosod celf yn yr amgylchedd. Rydym yn cynnig y gwasanaethau canlynol:

Cynllunio Strategol

 • Paratoi astudiaethau manwl ar gomisiynu gwaith celf mewn perthynas a chynlluniau adfywio trefol neu wledig

• Ymchwilio a datblygu polisiau celf gyhoeddus ar gyfer ardaloedd penodol

Rheolaeth Prosiectau

• Ymgynghoriad, cydweithrediad a rheolaeth prosiectau a chomisiynau unigol

• Trefnu dulliau dethol, gan gynnwys cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol

• Rheolaeth cyllideb ar gyfer comisiynau a phrosiectau celfyddyd gyhoeddus

• Cyngor ar godi nawdd gan gynnwys gwybodaeth ar gynlluniau gwobrwyol

• Cymorth technegol yn cynnwys cyngor arbenigol ar ysiwrant, cludiant a gosod

Rhaglen artistiaid preswyl a phrosiectau addysg

• Mae CC.AW yn sefydlu partneriaethau gyda chymunedau ledled Cymru i drefnu a rheoli prosiectau artistiaid preswyl

• Mae CC.AW yn trefnu prosiectau addysgol, gweithdai a seminarau i hyrwyddo deallusrwydd o gelfyddyd cyhoeddus a’r syniadaeth ynghlwm â hi

Arddangosfeydd a Hyrwyddo

• Curadu arddangosfeydd a pharatoi defnydd hyrwyddo

• Trefnu seminarau a chynadleddau

• Cydlynu cyhoeddusrwydd yn y wasg a’r cyfryngau

Mae Cywaith Cymru . Artworks Wales yn derbyn nawdd refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r rhaglen artistiaid preswyl yn derbyn cymorth grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


< yn nôl