Cywaith Cymru Artworks wales - tY Corff Cenedlaethol ar Gyfer Celfyddyd Cyhoeddus yng Nhymru
Cloc Haul Porthcawl | Porthcawl Sundial | artist: Andrew Rowe ; pic © David Symons
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Ty Crichton
11-12 Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5EE
Ffôn: 029 2048 9543
Ffacs: 029 2046 5458

 

 

cyflwyniad comisiynau artistiaid preswyl swyddi prosiectau arbennig adran y wasg map y gwefan cysylltwch archif

Prosiectau Arbennig

CYFROL NEWYDD Lansiwyd “GROUNDBREAKING: THE ARTIST IN THE CHANGING LANDSCAPE” ym mis Rhagfyr. Yn gynhyrchiad ar y cyd rhwng Cywaith Cymru a chwmni Seren o Ben-y-bont ar Ogwr, dan olygyddiaeth Iwan Bala, mae’r casgliad hardd hwn o draethodau ar amryfal agweddau ar waith Cywaith Cymru ers ugain mlynedd a mwy yn bwrw goleuni sylweddol ar hanes a datblygiad Celf Gyhoeddus yng Nghymru. Mae ar gael oddi wrth Seren am £19.95 ynghyd â chost postio a phacio, neu o siopau llyfrau dethol drwy Gymru a thu hwnt. Mae'n cynnwys traethodau gan ein Cyfarwyddwr, Tamara Krikorian, Cyfarwyddwr Preswyliadau, Stephen West a Rheolydd Prosiectau, Simon Fenhoulet. Y cyfranwyr eraill fydd Hugh Adams, Shelagh Hourahane, John Gingell, Peter Lord and Robin Campbell. Golygir y llyfr gan Iwan Bala, Rheolydd Prosiectau Arbennig. CELF YN Y SENEDD Mae arddangosfa o luniadau, modelau a ffotograffau cysylltiedig â chomisiynau Celf yn y Senedd yn cael ei chynnal yn Cywaith Cymru. Ar 16 Mawrth, ceir cyflwyniad gan Tamara Krikorian yn dilyn cyfres o deithiau o gwmpas y gweithiau celf yn adeilad newydd y Cynulliad, a ddyluniwyd gan Richard Rogers. Wrth fynd o gwmpas yr adeilad dan arweiniad Simon Fenoulhet, Mererid Roberts a Stephen West bydd cyfle i weld gwaith Richard Harris, Martin Richman, Alexander Beleschenko a Danny Lane. Agorir yr arddangosfa gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas. GALERI. Yn Ionawr a Chwefror, cafodd CYWAITH CYMRU gyfle i gyflwyno’i waith mewn arddangosfa yn y Safle Celf yn Galeri, Caernarfon. Rhoddwyd cyfle i’r artistiaid Maya Conran a Dyfrig Peris, sef Artistiaid Preswyl Eisteddfod Genedlaethol Eryri y llynedd, gyflwyno fideo y buont yn gweithio arni. “CELFADEILAD” AR FAES YR EISTEDDFOD Dyma fydd y pedwerydd comisiwn gan Cywaith Cymru i artist adeiladu adeiledd ar faes yr Eisteddfod nesaf at y Pafiliwn Celfyddydau Gweledol. Rhaid i’r adeiledd ddarparu llwyfan ar gyfer perfformio yn ogystal â bod yn ‘gerflunwaith’ ynddo’i hun. Eleni, yr artist Rawley Clay fydd yn ymgymryd â’r dasg, a bydd y bardd Catrin Dafydd yn datblygu darn i’w berfformio mewn trafodaeth â’r artist. Mae’r digwyddiad hwn bellach yn gywaith llwyddiannus a diddorol rhwng Cywaith Cymru a’r Academi. Os nad ydych yn derbyn y Cylchlythyr drwy'r post, medrwch archebu rhai, mae nifer ol-rifyn ar gael, drwy gysylltu a ni.

prosiectau arbennig cyfredol:

  • Elwa ar y gorffennol
  • Eisteddfod yng Nghasnewydd
    Yn yr Eisteddfod ym Meifod, comisiynodd Cywaith Cymru yr artist David Hastie i godi adeiledd, fod yn lleoliad i ragor o ddigwyddiadau celfyddydol a pherfformiadau. Eleni yng Nghasnewydd mae’r artist Carwyn Evans wedi cael cais tebyg.