Cywaith Cymru Artworks wales - tY Corff Cenedlaethol ar Gyfer Celfyddyd Cyhoeddus yng Nhymru
Cloc Haul Porthcawl | Porthcawl Sundial | artist: Andrew Rowe ; pic © David Symons
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Ty Crichton
11-12 Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5EE
Ffôn: 029 2048 9543
Ffacs: 029 2046 5458

 

 

cyflwyniad comisiynau artistiaid preswyl swyddi prosiectau arbennig adran y wasg map y gwefan cysylltwch archif

Comisiynau Cywaith Cymru

Fitzhamon Embankment

artist(iaid): Andrew Rowe, Heather Parnell, David Mackie

Rhed Arglawdd Fitzhamon cywaith.

Merioneth Paradoxides

artist(iaid): Jim Sadler

Cafodd y cyntaf o ddau gomisiwn a drefnwyd gan Gr_p Amgylcheddol y Bermo a Chelf Gyhoeddus Cymru, ‘Trilobit’, gwaith o ddur di-staen gan Jim Sadler, ei osod yn ddiweddar yng Nghoed Orielton yn y Bermo.

Merioneth Paradoxides

artist(iaid): Jim Sadler

Cafodd y cyntaf o ddau gomisiwn a drefnwyd gan Gr_p Amgylcheddol y Bermo a Chelf Gyhoeddus Cymru, ‘Trilobit’, gwaith o ddur di-staen gan Jim Sadler, ei osod yn ddiweddar yng Nghoed Orielton yn y Bermo.

Holyhead Town Centre

artist(iaid): Tom Goddard

awaiting translation

Wales at the Venice Biennale 2007

artist(iaid): Elen Bonner and Pascal-Michel Dubois

Dewiswyd Elen Bonner a Pascal-Michel Dubois i weithio gyda Heather ac Ivan Morison, dau o’r pedwar artist oedd yn cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2007. Dyma’r ail waith i Cywaith Cymru ymwneud â phrosiect yn y Biennale, gan greu cyfle arall i artistiaid o Gymru fod yn rhan o un o’r digwyddiadau mwyaf blaenllaw yn y calendr celfyddydau gweledol cyfoes.

Breakwater Country Park

artist(iaid): Patricia Jones

awaiting translation

Celfyddyd Meddwl

artist(iaid): Peter Randall-Page

Y syniad gwreiddiol y tu ôl i’r prosiect Celfyddyd Meddwl oedd y dylai gydio yn y berthynas ddeinamig rhwng gwyddoniaeth a chelfyddyd, yn enwedig o ran nodweddu adeiladwaith meddyliol yr ymennydd dynol.

Gwaith Celf Gwydr Ysgol St Thomas

artist(iaid): Catrin Jones

Pan wnaeth Dinas a Sir Abertawe gynlluniau i godi ysgol gynradd gymunedol newydd yn St Thomas, gwelwyd cyfle i gynnwys gwaith celf gwydr newydd o fewn yr adeilad newydd.

Prosiect Arbrofol Artist Preswyl Ysbyty Gwynedd

artist(iaid): Nancy Evans

Ym maes iechyd gall y celfyddydau chwarae rhan bwysig yn creu amgylchedd deniadol, croesawgar ac anfygythiol mewn ysbytai, gan annog pobl i deimlo’n well ac yn fwy cyfforddus. Cynllun preswyl arbrofol am gyfnod o chwe mis yw hwn, gyda’r artist tecstilau, Nancy Evans, yn gweithio ar ward y plant yn bennaf i greu gwaith celf, gyda’r cleifion a’r staff yn cymryd rhan.

Cynllun Peilot Artist Preswyl Ysbyty Gwynedd

artist(iaid): Nancy Evans

Grwpiau a Gefnogir gan Barclays yng Nghanolfan Padarn

artist(iaid): Anna Roebuck

Canolfan gofal dydd ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu yw Canolfan Padarn, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ceredigion. Nod y cynllun preswyl oedd i’r artist ddatblygu gwaith arloesol gyda defnyddwyr y ganolfan er mwyn dod â mwy o liw i’r fynedfa a’r ffordd sy’n arwain at y ganolfan, sydd ynghudd y tu ôl i orsaf yr ambiwlans. Penodwyd Anna Roebuck ar gyfer y cyfnod preswyl byr (chwe wythnos) i greu’r gwaith hwn. Roedd hi’n cyd-fynd yn dda â pholisi ailgylchu brwd y ganolfan, gan ei bod yn gwneud ei holl waith o blastig wedi’i ailgylchu.

Artists@Work: Laura Ashley

artist(iaid): Philippa Lawrence

Dyfarnwyd grant Artist@Work i Philippa Lawrence gan Cywaith Cymru yn 2003. Ei syniad, yn wreiddiol, oedd gweithio gydag uned gynhyrchu TEXPLAN Laura Ashley yn y Drenewydd, gan archwilio delweddau niferus ac ailadrodd. Oherwydd ei diddordeb ysol mewn patrymau, bwriad Philippa oedd gweithio ochr yn ochr â thîm Laura Ashley yno i ddeall a dysgu am argraffu masnachol ar raddfa fawr ar gyfer deunyddiau dodrefnu a phapur wal, gan fynd ati i ddatblygu ei dyluniadau ei hun ar gyfer cynhyrchu ychydig ohonynt.

Good Ideas - Gloria Days

artist(iaid): Marc Rees

Dyfarnwyd grant Syniadau Da i Marc Rees gan Cywaith Cymru yn 2006 er mwyn ymchwilio i fywyd Pumed Ardalydd Ynys Môn, sef Henry Cyril Paget, 'Ardalydd y Ddawns'. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar Ddawns y Pili Pala, sef digwyddiad cymunedol a drefnwyd gan yr Ardalydd gyda chyfraniad pobl leol Môn. Y bwriad oedd dod i wybod am ran hynod ond cymharol ddieithr o hanes Cymru, ei hail-lunio a chreu gwaith celf cyfoes cofiadwy, anrhydeddus gyda’r gymuned â rhan flaenllaw yn y gwaith.

Llwybr Strategol Aber Conwy

artist(iaid): Claire Barber

Dewiswyd Claire Barber yn artist preswyl ar gyfer Aber Conwy fel rhan o brosiect datblygu mawr a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i greu llwybr strategol a llwybr beiciau. Cafodd y llwybr terfynol ei ddewis er mwyn gwella mynediad ar hyd glannau’r Aber, o Arfordir Gorllewinol Llandudno, gyda chyswllt trwy Warchodfa Natur yr RSPB at ardal Glan Conwy. Nod y cyfnod preswyl oedd ymwneud â’r bobl leol ac ymwelwyr â’r ardal, a rhoi ymchwil ar waith i ddatblygu themâu a syniadau ar gyfer cyfres o weithiau celf a fyddai’n cael eu comisiynu ar gyfer y llwybr cerdded a beicio.

Dilyn y Wythïen

artist(iaid): Howard Bowcott

Cerflun gan Howard Bowcott, mewn tywodfaen, llechfaen a bric. Comisiynwyd y gwaith hwn gan Gyngor Tref Rhydaman, gyda chefnogaeth Loteri’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, i goffau treftadaeth lofaol yr ardal.

Comisiwn Pyrth Llanrwst

artist(iaid): Nigel Talbot

Dyluniwyd a chrëwyd y cerfluniau gan yr artist o Gaerdydd, Nigel Talbot, ar gomisiwn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, gyda chefnogaeth Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.

'Cawell' Eisteddfod 2006 Abertawe

artist(iaid): Rawley Clay

Cawell

Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau, Comisiwnau Dros Dro

artist(iaid): Matt Cook

Trenau’n Mwmblan: Detholiad gorhoffus

Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau, Comisiwnau Dros Dro

artist(iaid): Sans Facon

Roedd ‘Rydych Chi Yma’ gan Sans Façon yn rhan o gyfres o ymyriadau dros dro a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Amgueddfa Genedlaethol Y Glannau, Comisiwn Sefydlog

artist(iaid): Gordon Young

Cerflun gan Gordon Young a gomisiynwyd gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru ar gyfer Amgueddfa Genedlaethol newydd y Glannau.

Mosaigs Caernarfon

artist(iaid): Maureen O'Kane, Andrew Bolton

Dadorchuddiwyd cyfres o mosaigs gan artistiaid Maureen O'Kane, Andrew Bolton, a plant o 12 ysgol lleol ar Ddoc Fictoria, ar 19 Chwefror. Ariannwyd y prosiect gan Y Sefydliad Materion Cymreig fel rhan o gynllyn ‘Creu Cyfle’, a gan Cyngor Sir Gwynedd.

Celf yn y Senedd - Y Siambr

artist(iaid): Alexander Beleschenko

Comisiynwyd Cywaith Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol i baratoi strategaeth celf gyhoeddus ar gyfer y Senedd. Cymerwyd pedwar comisiwn celf ymlaen o’r strategaeth gychwynnol, pob un ohonynt wedi’u hintegreiddio â’r adeilad. Gwaith Alex Beleschenko yn y man yma yw cromen wydr dau fetr o led, sy’n codi o lawr derw’r siambr.

Celf yn y Senedd - Man Cyfarfod

artist(iaid): Richard Harris

Comisiynwyd Cywaith Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol i baratoi strategaeth celf gyhoeddus ar gyfer y Senedd. Cymerwyd pedwar comisiwn celf ymlaen o’r strategaeth gychwynnol, pob un ohonynt wedi’u hintegreiddio â’r adeilad. Mae Richard Harris wedi creu ffurf nodedig grwm sydd fel petai’n tarddu o’r adeilad.

Celf yn y Senedd - Paneli Acwstig

artist(iaid): Martin Richman

Comisiynwyd Cywaith Cymru gan y Cynulliad Cenedlaethol i baratoi strategaeth celf gyhoeddus ar gyfer y Senedd. Cymerwyd pedwar comisiwn celf ymlaen o’r strategaeth gychwynnol, pob un ohonynt wedi’u hintegreiddio â’r adeilad. Penodwyd Martin Richman i weithio ar brosiect i ychwanegu lliw i’r adeilad newydd.

Celf yn y Senedd - Gwrychoedd y gwynt

artist(iaid): Danny Lane

Cwlwm Glaslyn - Pobl a Thirwedd

artist(iaid): Naomi Leake

Mae Cwlwm Glaslyn yn gonsortiwm pwysig o 27 o grwpiau cymunedol gweithgar yn ardal Beddgelert o Eryri, sydd nawr â chryn dipyn o’r ardal yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael eu rheoli ganddo. Mae’r defnydd a’r dealltwriaeth o’r ardal gan drigolion a chymunedau lleol yn wahanol i’r defnydd a’r dealltwriaeth sydd gan ymwelwyr a thwristiaeth. Amcan y prosiect artist preswyl hwn oedd i godi ymwybyddiaeth o berthynas pobl â’r tirwedd, yn rhoi ffurf i’r syniadau am y tir fel llwr ffatri ar gyfer gweithwyr gwledig neu dirwedd gwyllt ar gyfer ymwelwyr. Bu’r artist preswyl Naomi Leake yn gweithio gyda chymunedau yn yr ardal leol i gynhyrchu cyhoeddiad darluniedig a cherflun awyr agored.

CYFRANOGWCH MEWN BYD DIGIDOL

artist(iaid): Scanner

Fel rhan o Wyl agoriadol technoleg greadigol Caerdydd, BOED I CHI FYW MEWN OES DDIDDOROL, mae’r artist a’r cerddor Rimbaud, neu Scanner, wedi bod yn artist preswyl ar Hysbys Gogledd Cymru. Gan weithio ar y cyfnod preswyl, CYFRANOGWCH MEWN BYD DIGIDOL, mae Scanner wedi bod yn ymweld â nifer o leoliadau mewn trefi ac ysgolion yng Ngogledd Cymru ac yn cynnal cyfweliadau gydag amrywiaeth eang o bobl, yn gofyn am yr iaith Gymraeg a’i phwysigrwydd. Mae wedi gofyn i bobl i siarad am eu hoff eiriau Cymraeg, ei seiniau a’u hystyron, ac hefyd am eu hoff bethau. Mae Scanner wedi cymryd samplau o’r recordiadau hyn, gan adeiladu a chynhyrchu rhaglen o ddarllediadau byrion, gan gymysgu recordiadau o’r cyfweliadau yn ddigidol, ac yna’u cynnig ar wefan yr wyl, ac hefyd eu gwneud yn hygyrch trwy wefan y BBC.

Ysbyty Glan Clwyd Blynyddoedd 1, 2 a 3

artist(iaid): Sian Hughes

Mae’r cyfnod preswyl hwn wedi bod yn un hanner prosiect a gaiff ei gynnal yn Ysbytai Glan Clwyd a Dinbych dan arweiniad yr artistiaid Sian Hughes a Jenny Fell. Cafodd y cyfnod preswyl hwn ei sefydlu fel rhan o fenter ehangach a chynllun helaeth tair blynedd a ddatblygwyd gan Celf Sir Ddinbych, sydd wedi cynnwys prynu Arts Karts a chreu mannau arddangos parhaol a thros dro yn yr ysbytai. Cafodd y cyfnodau hyfforddi eu sefydlu i helpu i wella profiad cleifion, staff ac ymwelwyr i’r ysbytai, gan alluogi artistiaid preswyl i ddatblygu gweithgareddau cydweithrediadol a chyfranogol, gan gynhyrchu gwaith celf sy’n gwneud yr amser a dreulir yn yr ysbyty yn fwy pleserus, yn ogystal â gwella amgylchedd corfforol yr adeiladau.

Ysbyty Dinbych Blwyddyn 1, 2 a 3

artist(iaid): Jenny Fell

Yn dilyn sefydlu Ymddiriedolaethau strategaeth gelf GIG Conwy a Sir Ddinbych, gofynnwyd i Cywaith Cymru . Artworks Wales helpu i sefydlu dau gyfnod preswyl yn Ysbytai Dinbych a Glan Clwyd. Yn 2003, dechreuodd Sian Hughes weithio yn Ysbyty Glan Clwyd (gweler gwybodaeth ar wahân) a Jenny Fell yn Ninbych. Cafodd y ddwy artist eu cyflogi i helpu denu cleifion, ymwelwyr a staff i gymryd rhan yn y celfyddydau, ac hefyd i nodi lleoliadau ar gyfer arddangosfeydd ac yna gosod arddangosfeydd dros dro a pharhaol o’r gwaith celf a gynhyrchwyd. Y bwriad oedd gwella profiad y claf ac amgylchedd yr ysbyty trwy weithgareddau celfyddydol cydweithredol a chyfranogol.

Llechi - Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis ac Eisteddfod Genedlaethol y Faenol

artist(iaid): Maia Conran and Dyfrig Peris

Prosiect a lansiwyd gan Cywaith Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru.

BASTA

artist(iaid): Bedwyr Williams

Basta. Cymru yn y Biennale Celf yn Fenis 2005. Cyfnod preswyl gan Bedwyr Williams. Roedd y cyfnod preswyl yn bartneriaeth rhwng Cywaith Cymru a Chymru yn y Biennale Celf yn Fenis. Cafodd y cydweithrediad newydd hwn rhwng Cymru yn y Biennale yn Fenis a Cywaith Cymru ei hysbysebu’n agored a’i ddewis o blith artistiaid a geisiodd o Gymru, Prydain a thramor. Roedd bod yn weladwy yng Nghymru ac yn berthnasol i bobl leol yn Fenis yn amcanion pwysig, ac fe gawson nhw’u cynyddu gan y ffaith bod presenoldeb Cymru yn Fenis ar Ynys Giudecca a’i hwyluso trwy Gymdeithas Ddiwylliannol Nuova Icona.

Eisteddfod 2005 - Y CelfAdeilad ar y Maes

artist(iaid): Sean Curley and Helen Jones

NODDFA yw canlyniad trydydd comisiwn Cywaith Cymru i gynllunio, adeiladu a defnyddio CelfAdeilad ar faes yr Eisteddfod drws nesa' i Bafiliwn y Celfyddydau Gweledol. Gwaith ydyw wedi’i gynllunio a’i adeiladu gan Sean Curley, lle arddangosir gwaith celf Helen Jones o fewn ‘myfyrgell fewnol’.

Adfywio Stryd Fawr Cas-gwent

artist(iaid): Tim Shutter

Pan gysylltodd Cyngor Sir Fynwy â Chywaith Cymru yn Ionawr 2003 roedd nifer o astudiaethau eisoes wedi’u gwneud dros y deng mlynedd diwethaf i ddatblygu syniadau ar sut i wella canol y dref. Roedd tri phrif nod: creu llecyn hardd a fyddai’n lle braf i siopwyr ac ymwelwyr, tawelu traffig a gwella’r amgylchedd i gerddwyr, a chynhyrchu potensial economaidd i ganol y dref gyda chais llwyddiannus am arian gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru, yn ogystal ag arian a ddyrannwyd gan yr awdurdod lleol, trefnwyd i roi ar waith gynllun a amlinellwyd gan y tirlunwyr a’r peirianwyr, W.S. Atkins. Dewiswyd yr artistiaid Howard Bowcott a Tim Shutter i gydweithio’n agos gyda Chywaith Cymru a’r tirluniwr o gwmni Atkins.

Adfywio Stryd Fawr Cas-Gwent

artist(iaid): Andre Wallace

Pan gysylltodd Cyngor Sir Fynwy â Chywaith Cymru yn Ionawr 2003 roedd nifer o astudiaethau eisoes wedi’u gwneud dros y deng mlynedd diwethaf i ddatblygu syniadau ar sut i wella canol y dref. Roedd tri phrif nod: creu llecyn hardd a fyddai’n lle braf i siopwyr ac ymwelwyr, tawelu traffig a gwella’r amgylchedd i gerddwyr, a chynhyrchu potensial economaidd i ganol y dref gyda chais llwyddiannus am arian gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru, yn ogystal ag arian a ddyrannwyd gan yr awdurdod lleol, trefnwyd i roi ar waith gynllun a amlinellwyd gan y tirlunwyr a’r peirianwyr, W.S. Atkins.

Adfywio Stryd Fawr Cas-Gwent

artist(iaid): Howard Bowcott

Pan gysylltodd Cyngor Sir Fynwy â Chywaith Cymru yn Ionawr 2003 roedd nifer o astudiaethau eisoes wedi’u gwneud dros y deng mlynedd diwethaf i ddatblygu syniadau ar sut i wella canol y dref. Roedd tri phrif nod: creu llecyn hardd a fyddai’n lle braf i siopwyr ac ymwelwyr, tawelu traffig a gwella’r amgylchedd i gerddwyr, a chynhyrchu potensial economaidd i ganol y dref gyda chais llwyddiannus am arian gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac Awdurdod Datblygu Cymru, yn ogystal ag arian a ddyrannwyd gan yr awdurdod lleol, trefnwyd i roi ar waith gynllun a amlinellwyd gan y tirlunwyr a’r peirianwyr, W.S. Atkins. Dewiswyd yr artistiaid Howard Bowcott a Tim Shutter i gydweithio’n agos gyda Chywaith Cymru a’r tirluniwr o gwmni Atkins.

Gerddi Wynn, Hen Golwyn

artist(iaid): Joss Smith

Mae Gerddi Wynn – gerddi planedig hardd gyda choed aeddfed a llwyni a mannau glaswelltog agored ym mhentref Hen Golwyn – bellach yn cynnwys Gardd i’r Deillion, a ddyluniwyd gan Adran Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac sy’n cynnwys grwp o gerfluniau gan y cerflunydd o Lundain sy’n gweithio yn Battersea, Joss Smith.

Marchnad Casnewydd

artist(iaid): Catrin Jones

Gydag adnewyd marchnad dan-do Casnewydd, sy'n dyddio'n ôl i'r 19eg ganrif, cododd cyfle i gomisiynu artist i ddylunio a gwneud ffenestr fawr ar gyfer talcen llawr cyntaf yr adeilad. Cafwyd arian ar gyfer y prosiect hwn gan y Loteri Cenedlaethol.

Gwydr Pensaerniol Brewery Lane

artist(iaid): Martin Donlin

Castell Henllys 2004 - Tir, Coed a Dwr

artist(iaid): Andy Rowe and Lorraine Taylor

Mae bryngaer Castell Henllys yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn Heneb Restredig sy’n un o nifer o gaerau penrhyn cynhanesyddol yn y Parc Cenedlaethol sy’n dyddio’n ôl i ryw 600CC. Yr hyn sy’n gwneud y safle hwn yn arbennig o bwysig yw fod archeolegwyr yn cloddio yma ers dros ugain mlynedd a bod adeiladau to gwellt o Oes yr Haearn wedi’u hailadeiladu ar eu sylfeini gwreiddiol. Fel adnodd ar gyfer deall Oes yr Haearn, mae Castell Henllys yn ddigymar, gan gynnig cyfuniad unigryw o Heneb Restredig, cloddfa archeolegol ac archeoleg arbrofol.

YSBYTY BRENHINOL MORGANNWG

artist(iaid): C.HILES & H. PARNELL (YR 1) H. PARNELL & N. TALBOT (YR 2)

Agorwyd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn 2000 a chychwynnwyd y cynllun preswyl yn 2002 gyda chyfarwyddiadau i weithio gyda staff yr ysbyty a’r gymuned ehangach i ddatblygu a chynhyrchu prosiectau a gweithiau celfyddyd newydd i’r ysbyty. Penodwyd Carol Hiles a Heather Parnell i ymchwilio, trefnu a hwyluso amrywiaeth o weithdai a sesiynau i annog cydweithio rhwng staff a gwahanol adrannau.

Llwybr Arfordirol Mileniwm Llanelli

artist(iaid): Mick Petts , Richard Harris. Michael Fairfax

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi adfer 21 cilomedr o'r glannau rhwng Casllwchwr a Phen-bre yn sgil derbyn grant sylweddol gan Gomisiwn y Milflwyddiant. Mae Cywaith Cymru wedi gweithredu strategaeth gelf ar gyfer y prosiect hwn sy'n torri tir newydd. Comisiynwyd pedwar artist - Mick Petts, Richard Harris, Lynne Bebb a Michael Fairfax - i weithio mewn gwahanol ardaloedd o fewn parc y glannau.

Pont Mileniwm Dyfi

artist(iaid): Jon Mills

Codwyd pont newydd wych i groesi afon brydferth Dyfi ger Machynlleth fel rhan o’r Rhwydwaith Llwybrau Beic Cenedlaethol.