| Gwobrau a Mentora
AR LIWT YR ARTIST - CANLLAWIAU PROSIECTIAU PRESWYL
Cywaith Cymru . Artworks Wales yw’r sefydliad cenedlaethol dros Gelfyddyd Gyhoeddus yng Nghymru a’r prif sefydliad dros brosiectau preswyl celf a chrefft gweledol yng Nghymru. Ers mis Medi 1998, 'rydym wedi cyflogi dros 180 artist ar y Rhaglen Artistiaid Preswyl, dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r wybodaeth yma ar gyfer prosiectiau preswyl a gychwynwyd gan artistiaid.
1. ARTISTIAID YN Y GWAITH
Mae Artistiaid yn y Gwaith yn ffocws newydd ar gyfer Cynllun Artistiaid Preswyl Cywaith Cymru . Artworks Wales. Mae’n cyd-fynd â menter newydd debyg Syniadau Da – Prosiectau dan Arweiniad Artistiaid.
Dewisodd llawer o’r artistiaid a fu’n cymryd rhan ym Mhrosiectau Preswyl Blwyddyn yr Artist 2000 ddatblygu prosiectau mewn diwydiannau penodol ac yn aml fe arweiniodd hyn at gryn ddatblygiad yn eu harferion gwaith neu eu sgiliau. Mae Artistiaid yn y Gwaith yn ceisio adeiladu ar y profiad hwn yn ogystal â helpu artistiaid i ddatblygu eu prosiectau ac ysgafnhau’r baich gweinyddol sy’n gysylltiedig â phrosiectau o’r fath.
Nod Artistiaid yn y Gwaith yw bodloni anghenion artistiaid i gael datblygu eu harferion artistig trwy weithio ym myd diwydiant, ac annog busnesau i ddarganfod manteision gweithio gydag artist.
Mae Cywaith Cymru . Artworks Wales yn chwilio am syniadau arloesol ar gyfer prosiectau gan artistiaid. Dylai’r prosiectau fod yn rhai a allai hyrwyddo datblygiad artistig a bod o les sylweddol i’r artist o ran cysyniadau, sgiliau, technegau, prosesau neu ddulliau gweithio. Dylai’r busnes a fyddai’n croesawu’r artist elwa hefyd, o ran profiad, sgiliau, syniadau newydd, cyfeiriadau newydd ar gyfer eu cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau ac ati. Dylai’r artist arddangos lefel uchel o broffesiynoldeb wrth weithio gyda’r busnes a ddewisir.
Gwahoddir ceisiadau gan artistiaid sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng ar gyfer prosiectau sy’n golygu gweithio gyda busnes, ffatri neu sefydliad mawr arall. Mae grantiau o hyd at 90% o gost y prosiect ar gael.
Rhaid paratoi disgrifiad o’r prosiect i Cywaith Cymru . Artworks Wales gan gynnwys y manteision disgwyliedig i’r artist a’r busnes. Os cafodd y costau eu cyfrifo, fe ddylid eu cynnwys. Cofiwch: dylai ffïoedd i artistiaid gael eu cyfrifo un ai yn ôl £600 am wythnos gyfan neu £160 y diwrnod.
Bydd y prosiectau a ddewisir yn cael eu datblygu a’u rheoli gan CC . AW, a fydd yn ganolwr rhwng yr artist a’r busnes, yn cyfrifo cyllideb, llunio amserlen a rheoli’r berthynas rhwng yr artist a’r busnes. Os bydd yr artist eisoes wedi cysylltu â busnes, dylid cynnwys llythyr o gefnogaeth gan y busnes gyda’r cais, ynghyd ag arwydd o sut y bydd gweddill y costau’n cael eu talu. Fe all cyfraniad o ran amser, deunyddiau a/neu gyfleusterau gael ei gyfrifo ar ffurf arian cyfatebol.
Mewn rhai achosion, os bydd gan artist syniad am brosiect eithriadol ddiddorol ond nad yw ef neu hi wedi cysylltu â ffatri neu fusnes hyd yn hyn, fe all Cywaith Cymru.Artworks Wales weithredu fel canolwr i sefydlu prosiect ar gyfer yr artist.
£6000 fydd y grant mwyaf a fydd ar gael ar gyfer unrhyw brosiect unigol.
2. SYNIADAU DA – PROSIECTAU DAN ARWEINIAD ARTISTIAID
Bydd Syniadau Da – Prosiectau dan Arweiniad Artistiaid yn ehangu’r syniadau a’r arferion sy’n cael eu derbyn ar hyn o bryd ynghylch prosiectau artistiaid preswyl. Mae’n anelu at fodloni anghenion artistiaid o gael nawdd ar gyfer prosiectau a fydd yn datblygu eu harferion artistig a cheisio helpu gyda’r dyletswyddau gweinyddol sy’n aml yn gysylltiedig â phrosiectau o’r fath. Nid bwriad y cynllun yw bod yn fwrsariaethau i roi seibiant ar gyfer gwaith stiwdio i artistiaid – mae grantiau ar gael gan Gyngor Celfyddydau Cymru i hynny.
Mae Cywaith Cymru . Artworks Wales yn chwilio am syniadau cyffrous gan artistiaid ar gyfer prosiectau yng Nghymru sydd ag agwedd o gydweithio â lleoliad/cymuned ac a allai fod o les sylweddol i’r artist a’r gymuned leol o ran cysyniadau, sgiliau, dulliau gweithio neu ddatblygu celfyddyd yn ogystal ag arddangos lefel uchel o broffesiynoldeb.
Nifer gyfyngedig o grantiau fydd ar gael, felly bydd y ceisiadau llwyddiannus yn arddangos syniadau a/neu arferion artistig arloesol a gwir angen am gyfraniad o du Cywaith Cymru . Artworks Wales.
Gwahoddir ceisiadau gan artistiaid gweledol neu greftwyr sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng. Mae grantiau o hyd at 90% o gost y prosiect ar gael.
Rhaid cynnwys disgrifiad o’r prosiect, a hefyd y manteision disgwyliedig i’r artist a’r gymuned. Dylech roi syniad o’r costau ac arian cyfatebol posib, ynghyd ag amserlen amlinellol, os ydynt ar gael.
Cofiwch: dylai ffïoedd i artistiaid gael eu cyfrifo un ai yn ôl £600 am wythnos gyfan neu £160 y diwrnod
Dylai ceisiadau gynnwys llythyr o gefnogaeth gan sefydliad celfyddydol lleol. Bydd gennym ddiddordeb mewn gwybod a fydd man gweithio ar gael (os bydd ei angen) ac a fydd y gymuned yn cyfrannu at y nawdd o gwbl. Os bydd gan artist syniad am brosiect eithriadol o ddiddorol ond nad yw ef neu hi wedi cysylltu â chymuned hyd yn hyn, fe allwn ni weithredu fel canolwr i sefydlu prosiect ar gyfer yr artist.
£6000 fydd y grant mwyaf a fydd ar gael ar gyfer unrhyw brosiect unigol.
I wneud cais am y cyfleoedd hyn – A wnewch chi anfon y canlynol:
1. Llythyr cais, yn rhoi manylion y prosiect dan sylw a’i fanteision disgwyliedig i chi a’r busnes neu gymuned a chyllideb ac amserlen, os byddant ar gael.
2. Llythyr cefnogaeth gan y busnes neu'r sefydliad celfyddydol lleol ac enw, cyfeiriad a rhif ffôn canolwr arall.
3. Rhwng 6 ac 8 sleid neu ffotograffau o waith diweddar gyda rhestr ddisgrifiadol yn nodi maint, deunyddiau, dyddiadau ac ati. Dylech rifo a labelu delweddau gyda’ch enw, a rhoi saeth tuag i fyny yn y gornel dde uchaf i ddangos pa ffordd i’w dal.
4. Curriculum Vitae wedi’i ddiweddaru. P>Y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau fydd 31 Mawrth a 30 Medi bob blwyddyn at:
Artistiaid yn y Gwaith neu Syniadau Da, Cywaith Cymru . Artworks Wales, Tyˆ Crichton, 11-12 Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5EE Ffôn: 02920 489543 Ffacs: 02920 465458 info@cywaithcymru.org
www.cywaithcymru.org
GWYBODAETH HANFODOL – CYNLLUN MENTORA ARTISTIAID
Ychwanegiad yw hwn at brif Raglen Artistiaid Preswyl Cywaith Cymru. Ei fwriad yw torri’r cylch mileinig lle mae artistiaid llai sefydlog yn methu cael gwaith preswyl oherwydd eu diffyg profiad.
Mae Cynllun Mentora Artistiaid Gwybodaeth Hanfodol yn galluogi artistiaid llai profiadol i wylio artistiaid preswyl eraill wrth eu gwaith, i’w helpu i ddeall yr elfennau allweddol a bod yn bresennol ar adegau strategol yn ystod cyfnod preswyl. Mae’r cynllun yn agored i artistiaid gweledol a chrefftwyr a hoffai fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a chanfod sut y gellir defnyddio’r sgiliau sydd ganddynt mewn cynllun preswyl. Efallai eich bod wedi graddio’n ddiweddar, yn artist ar ddechrau eich gyrfa neu, mewn rhai amgylchiadau, yn ymarferydd mwy profiadol a hoffai ddechrau ymgeisio am gyfleoedd artist preswyl.
Ar yr amod y ceir cytundeb rhwng y ganolfan sy’n cynnal y cyfnod preswyl a’r artist preswyl ei hun, bydd Cywaith Cymru’n ceisio gosod artistiaid sydd wedi cofrestru gyda Chynllun Mentora Artistiaid Gwybodaeth Hanfodol mewn prosiectau a fydd yn eu helpu i gael y profiad a’r ddealltwriaeth angenrheidiol i weithio yn y maes hwn.
Wedyn gall yr artist dreulio hyd at 10 diwrnod gyda’r prosiect, yn gwylio ac yn cymryd rhan ar adegau priodol yn ystod y cyfnod preswyl, e.e. sesiwn gynllunio, gweithdy ymarferol, cyfarfod grwp llywio neu gyfarfod gwerthuso neu wrando adroddiad. Bydd Cynllun Mentora Gwybodaeth Hanfodol yn darparu £50 y dydd o dreuliau i’r sawl sy’n derbyn y gwasanaeth mentora.
Ni fydd disgwyl i rai a gaiff eu mentora weithredu fel ail bâr o ddwylo, yn derbyn llai o dâl, a gwneir hyn yn glir i gynhalwyr y prosiect.
SUT I YMGEISIO
I wneud cais i gael ymuno â’r cynllun, cysylltwch â swyddfa Cywaith Cymru . Artworks Wales am ffurflen gais, a dychwelwch y ffurflen wedi ei llenwi i'r cyfeiriad isod os gwelwch yn dda.
Sylwer nad oes raid cael trwydded yrru, gwiriad gan y swyddfa cofnodion troseddol nac yswiriant atebolrwydd cyhoeddus, ond gorau po fwyaf o wybodaeth a gawn ni amdanoch wrth ichi gofrestru, er mwyn hwyluso’r broses o ddod o hyd i’r lleoliad mwyaf addas i chi.
Dylech gofio hefyd y gall gymryd sbel o amser i ni ganfod y prosiect iawn ar eich cyfer. Peidiwch â phoeni os na fyddwch wedi clywed gennym ers tro; ni fydd hyn yn golygu ein bod wedi anghofio amdanoch. Os bydd eich manylion yn newid, gadewch i ni wybod cyn gynted ag y gallwch.
Anfonwch eich ffurflen gofrestru wedi’i llenwi at:
Cynllun Mentora Gwybodaeth Hanfodol, Cywaith Cymru, Ty Crichton, 11-12 Sgwâr Mount Stuart, Caerdydd, CF10 5EE
Ffôn: 029 20489543 Ffacs: 029 20465458 info@cywaithcymru.org
www.cywaithcymru.org |