Cywaith Cymru Artworks wales - the national organisation for public art in Wales
Treading Softly, Bardsey Island, Artist Clare Barber, pic ©  Clare Barber.
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Ty Crichton
11-12 Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5EE
Ffôn: 029 2048 9543
Ffacs: 029 2046 5458
  cyflwyniad comisiynau artististiad preswyl swyddi prosiectau arbennig adran y wasg map y gwefan cysylltwch archif

Prosiectau cyfredol Artistiaid Preswyl (AP)

An image from the  project. Click here for more details


YSBYTY BRENHINOL MORGANNWG

artist(iaid): C.HILES & H. PARNELL (YR 1) H. PARNELL & N. TALBOT (YR 2)
Agorwyd Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn 2000 a chychwynnwyd y cynllun preswyl yn 2002 gyda chyfarwyddiadau i weithio gyda staff yr ysbyty a’r gymuned ehangach i ddatblygu a chynhyrchu prosiectau a gweithiau celfyddyd newydd i’r ysbyty. Penodwyd Carol Hiles a Heather Parnell i ymchwilio, trefnu a hwyluso amrywiaeth o weithdai a sesiynau i annog cydweithio rhwng staff a gwahanol adrannau.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Castell Henllys 2004 - Tir, Coed a Dwr

artist(iaid): Andy Rowe and Lorraine Taylor
Mae bryngaer Castell Henllys yn rhan o Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn Heneb Restredig sy’n un o nifer o gaerau penrhyn cynhanesyddol yn y Parc Cenedlaethol sy’n dyddio’n ôl i ryw 600CC. Yr hyn sy’n gwneud y safle hwn yn arbennig o bwysig yw fod archeolegwyr yn cloddio yma ers dros ugain mlynedd a bod adeiladau to gwellt o Oes yr Haearn wedi’u hailadeiladu ar eu sylfeini gwreiddiol. Fel adnodd ar gyfer deall Oes yr Haearn, mae Castell Henllys yn ddigymar, gan gynnig cyfuniad unigryw o Heneb Restredig, cloddfa archeolegol ac archeoleg arbrofol.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


BASTA

artist(iaid): Bedwyr Williams
Basta. Cymru yn y Biennale Celf yn Fenis 2005. Cyfnod preswyl gan Bedwyr Williams. Roedd y cyfnod preswyl yn bartneriaeth rhwng Cywaith Cymru a Chymru yn y Biennale Celf yn Fenis. Cafodd y cydweithrediad newydd hwn rhwng Cymru yn y Biennale yn Fenis a Cywaith Cymru ei hysbysebu’n agored a’i ddewis o blith artistiaid a geisiodd o Gymru, Prydain a thramor. Roedd bod yn weladwy yng Nghymru ac yn berthnasol i bobl leol yn Fenis yn amcanion pwysig, ac fe gawson nhw’u cynyddu gan y ffaith bod presenoldeb Cymru yn Fenis ar Ynys Giudecca a’i hwyluso trwy Gymdeithas Ddiwylliannol Nuova Icona.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Llechi - Amgueddfa Lechi Cymru Llanberis ac Eisteddfod Genedlaethol y Faenol

artist(iaid): Maia Conran and Dyfrig Peris
Prosiect a lansiwyd gan Cywaith Cymru mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Lechi Cymru.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Ysbyty Dinbych Blwyddyn 1, 2 a 3

artist(iaid): Jenny Fell
Yn dilyn sefydlu Ymddiriedolaethau strategaeth gelf GIG Conwy a Sir Ddinbych, gofynnwyd i Cywaith Cymru . Artworks Wales helpu i sefydlu dau gyfnod preswyl yn Ysbytai Dinbych a Glan Clwyd. Yn 2003, dechreuodd Sian Hughes weithio yn Ysbyty Glan Clwyd (gweler gwybodaeth ar wahân) a Jenny Fell yn Ninbych. Cafodd y ddwy artist eu cyflogi i helpu denu cleifion, ymwelwyr a staff i gymryd rhan yn y celfyddydau, ac hefyd i nodi lleoliadau ar gyfer arddangosfeydd ac yna gosod arddangosfeydd dros dro a pharhaol o’r gwaith celf a gynhyrchwyd. Y bwriad oedd gwella profiad y claf ac amgylchedd yr ysbyty trwy weithgareddau celfyddydol cydweithredol a chyfranogol.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Ysbyty Glan Clwyd Blynyddoedd 1, 2 a 3

artist(iaid): Sian Hughes
Mae’r cyfnod preswyl hwn wedi bod yn un hanner prosiect a gaiff ei gynnal yn Ysbytai Glan Clwyd a Dinbych dan arweiniad yr artistiaid Sian Hughes a Jenny Fell. Cafodd y cyfnod preswyl hwn ei sefydlu fel rhan o fenter ehangach a chynllun helaeth tair blynedd a ddatblygwyd gan Celf Sir Ddinbych, sydd wedi cynnwys prynu Arts Karts a chreu mannau arddangos parhaol a thros dro yn yr ysbytai. Cafodd y cyfnodau hyfforddi eu sefydlu i helpu i wella profiad cleifion, staff ac ymwelwyr i’r ysbytai, gan alluogi artistiaid preswyl i ddatblygu gweithgareddau cydweithrediadol a chyfranogol, gan gynhyrchu gwaith celf sy’n gwneud yr amser a dreulir yn yr ysbyty yn fwy pleserus, yn ogystal â gwella amgylchedd corfforol yr adeiladau.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


CYFRANOGWCH MEWN BYD DIGIDOL

artist(iaid): Scanner
Fel rhan o Wyl agoriadol technoleg greadigol Caerdydd, BOED I CHI FYW MEWN OES DDIDDOROL, mae’r artist a’r cerddor Rimbaud, neu Scanner, wedi bod yn artist preswyl ar Hysbys Gogledd Cymru. Gan weithio ar y cyfnod preswyl, CYFRANOGWCH MEWN BYD DIGIDOL, mae Scanner wedi bod yn ymweld â nifer o leoliadau mewn trefi ac ysgolion yng Ngogledd Cymru ac yn cynnal cyfweliadau gydag amrywiaeth eang o bobl, yn gofyn am yr iaith Gymraeg a’i phwysigrwydd. Mae wedi gofyn i bobl i siarad am eu hoff eiriau Cymraeg, ei seiniau a’u hystyron, ac hefyd am eu hoff bethau. Mae Scanner wedi cymryd samplau o’r recordiadau hyn, gan adeiladu a chynhyrchu rhaglen o ddarllediadau byrion, gan gymysgu recordiadau o’r cyfweliadau yn ddigidol, ac yna’u cynnig ar wefan yr wyl, ac hefyd eu gwneud yn hygyrch trwy wefan y BBC.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Cwlwm Glaslyn - Pobl a Thirwedd

artist(iaid): Naomi Leake
Mae Cwlwm Glaslyn yn gonsortiwm pwysig o 27 o grwpiau cymunedol gweithgar yn ardal Beddgelert o Eryri, sydd nawr â chryn dipyn o’r ardal yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn cael eu rheoli ganddo. Mae’r defnydd a’r dealltwriaeth o’r ardal gan drigolion a chymunedau lleol yn wahanol i’r defnydd a’r dealltwriaeth sydd gan ymwelwyr a thwristiaeth. Amcan y prosiect artist preswyl hwn oedd i godi ymwybyddiaeth o berthynas pobl â’r tirwedd, yn rhoi ffurf i’r syniadau am y tir fel llwr ffatri ar gyfer gweithwyr gwledig neu dirwedd gwyllt ar gyfer ymwelwyr. Bu’r artist preswyl Naomi Leake yn gweithio gyda chymunedau yn yr ardal leol i gynhyrchu cyhoeddiad darluniedig a cherflun awyr agored.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Good Ideas - Gloria Days

artist(iaid): Marc Rees
Dyfarnwyd grant Syniadau Da i Marc Rees gan Cywaith Cymru yn 2006 er mwyn ymchwilio i fywyd Pumed Ardalydd Ynys Môn, sef Henry Cyril Paget, 'Ardalydd y Ddawns'. Canolbwyntiodd yr ymchwil ar Ddawns y Pili Pala, sef digwyddiad cymunedol a drefnwyd gan yr Ardalydd gyda chyfraniad pobl leol Môn. Y bwriad oedd dod i wybod am ran hynod ond cymharol ddieithr o hanes Cymru, ei hail-lunio a chreu gwaith celf cyfoes cofiadwy, anrhydeddus gyda’r gymuned â rhan flaenllaw yn y gwaith.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Artists@Work: Laura Ashley

artist(iaid): Philippa Lawrence
Dyfarnwyd grant Artist@Work i Philippa Lawrence gan Cywaith Cymru yn 2003. Ei syniad, yn wreiddiol, oedd gweithio gydag uned gynhyrchu TEXPLAN Laura Ashley yn y Drenewydd, gan archwilio delweddau niferus ac ailadrodd. Oherwydd ei diddordeb ysol mewn patrymau, bwriad Philippa oedd gweithio ochr yn ochr â thîm Laura Ashley yno i ddeall a dysgu am argraffu masnachol ar raddfa fawr ar gyfer deunyddiau dodrefnu a phapur wal, gan fynd ati i ddatblygu ei dyluniadau ei hun ar gyfer cynhyrchu ychydig ohonynt.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Llwybr Strategol Aber Conwy

artist(iaid): Claire Barber
Dewiswyd Claire Barber yn artist preswyl ar gyfer Aber Conwy fel rhan o brosiect datblygu mawr a gynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, i greu llwybr strategol a llwybr beiciau. Cafodd y llwybr terfynol ei ddewis er mwyn gwella mynediad ar hyd glannau’r Aber, o Arfordir Gorllewinol Llandudno, gyda chyswllt trwy Warchodfa Natur yr RSPB at ardal Glan Conwy. Nod y cyfnod preswyl oedd ymwneud â’r bobl leol ac ymwelwyr â’r ardal, a rhoi ymchwil ar waith i ddatblygu themâu a syniadau ar gyfer cyfres o weithiau celf a fyddai’n cael eu comisiynu ar gyfer y llwybr cerdded a beicio.
[manylion pellach....]


Grwpiau a Gefnogir gan Barclays yng Nghanolfan Padarn

artist(iaid): Anna Roebuck
Canolfan gofal dydd ar gyfer oedolion ag anawsterau dysgu yw Canolfan Padarn, sy’n cael ei rhedeg gan Gyngor Sir Ceredigion. Nod y cynllun preswyl oedd i’r artist ddatblygu gwaith arloesol gyda defnyddwyr y ganolfan er mwyn dod â mwy o liw i’r fynedfa a’r ffordd sy’n arwain at y ganolfan, sydd ynghudd y tu ôl i orsaf yr ambiwlans. Penodwyd Anna Roebuck ar gyfer y cyfnod preswyl byr (chwe wythnos) i greu’r gwaith hwn. Roedd hi’n cyd-fynd yn dda â pholisi ailgylchu brwd y ganolfan, gan ei bod yn gwneud ei holl waith o blastig wedi’i ailgylchu.
[manylion pellach....]


Cynllun Peilot Artist Preswyl Ysbyty Gwynedd

artist(iaid): Nancy Evans
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Prosiect Arbrofol Artist Preswyl Ysbyty Gwynedd

artist(iaid): Nancy Evans
Ym maes iechyd gall y celfyddydau chwarae rhan bwysig yn creu amgylchedd deniadol, croesawgar ac anfygythiol mewn ysbytai, gan annog pobl i deimlo’n well ac yn fwy cyfforddus. Cynllun preswyl arbrofol am gyfnod o chwe mis yw hwn, gyda’r artist tecstilau, Nancy Evans, yn gweithio ar ward y plant yn bennaf i greu gwaith celf, gyda’r cleifion a’r staff yn cymryd rhan.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Holyhead Town Centre

artist(iaid): Tom Goddard
awaiting translation
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Breakwater Country Park

artist(iaid): Patricia Jones
awaiting translation
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Merioneth Paradoxides

artist(iaid): Jim Sadler
Cafodd y cyntaf o ddau gomisiwn a drefnwyd gan Gr_p Amgylcheddol y Bermo a Chelf Gyhoeddus Cymru, ‘Trilobit’, gwaith o ddur di-staen gan Jim Sadler, ei osod yn ddiweddar yng Nghoed Orielton yn y Bermo.
[manylion pellach....]

An image from the  project. Click here for more details


Wales at the Venice Biennale 2007

artist(iaid): Elen Bonner and Pascal-Michel Dubois
Dewiswyd Elen Bonner a Pascal-Michel Dubois i weithio gyda Heather ac Ivan Morison, dau o’r pedwar artist oedd yn cynrychioli Cymru yn Biennale Fenis 2007. Dyma’r ail waith i Cywaith Cymru ymwneud â phrosiect yn y Biennale, gan greu cyfle arall i artistiaid o Gymru fod yn rhan o un o’r digwyddiadau mwyaf blaenllaw yn y calendr celfyddydau gweledol cyfoes.
[manylion pellach....]