Cywaith Cymru Artworks wales - the national organisation for public art in Wales
Treading Softly, Bardsey Island, Artist Clare
Barber, pic ©  Clare Barber.
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Ty Crichton
11-12 Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5EE
Ffôn: 029 2048 9543
Ffacs: 029 2046 5458
  cyflwyniad comisiynau artististiad preswyl swyddi digwyddiadau adran y wasg map y gwefan cysylltwch archif

Rhaglen Artistiaid Preswyl (AP)

I ymgeisio am nawdd crynhowch eich prosiect mewn llythyr can ystyried y cwestiynau canlynol.

  • Pwy fydd yn elwa arno?
  • Pam ydych eisiau cynnal prosiect?
  • Beth yw’r adnoddau ellwch chi eu cynnig?
  • A oes gofod stiwdio i’r artist?
  • Sut ellwch chi gefnogi AP?
  • A ydych yn hapus ynglyn â chytundebau iechyd a diogelwch, ac ati?
  • A oes arnoch angen cyngor? 
  • Pryd ydych chi am i’r prosiect ddechrau? 
  • A fydd hi’n bosibl i chi newid eich amserlen? 
  • A fydd gennych ddigon o arian i ymdopi ag argyfwng?
  • Cyllid Amlinellol?
    l Ydych chi wedi codi’r cyllid partneriaeth eto? Os na, pryd fydd yr arian hwnnw gennych?
  • Beth fydd arnoch ei eisiau ar derfyn y prosiect?

Gan ddibynnu ar faint eich prosiect, gallai gymryd hyd at bedwar mis i ddod i benderfyniad. Gall preswylfeydd gynnwys elfen o waith comisiwn ond archwilir y mathau hyn o brosiect yn ofalus iawn, a dim ond am yr elfennau nad ydynt yn rhan o’r comisiwn y rhoddir grantiau.

Ni ellir cyllido prosiectau llai na chwe wythnos, neu dros flwyddyn o hyd, fel rheol. Gall prosiectau fod yn rhan amser. Bydd cyllid cyfwerth yn dibynnu ar amgylchiadau pob prosiect ond ni fydd yn fwy na 50%. Gall nawdd gynnwys costau dethol, ffi yr artist, defnyddiau, dogfennu, teithio at waith allanol, hurio offer a chyfarpar.

Ni ellir defnyddio grantiau fel cyllid cyfwerth ar gyfer prosiectau loteri neu brosiectau eraill a gyllidir gan Gyngor Celfyddau Cymru (nid yw hynny’n golygu na all y cyllid cyfwerth ar gyfer prosiectau AP ddod o’u cyllid refeniw). Rhaid i brosiectau gael eu hysbysebu’n deg ac yn agored.

Ni chyllidir prosiectau sydd yn fwriadol yn eithrio rhannau neilltuol o gymdeithas, h.y. rhaid dilyn arfer cyfleoedd cyfartal da. Asesir prosiectau sydd angen mwy na £5000 o arian CC. AW bob pedwar mis gan banel, a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr llywodraeth leol. Asesir prosiectau sy’n gofyn am lai na £5000 gan grwp o swyddogion ar sail reolaidd.

Ni chaif grantiau eu talu hyd oni fydd CC . AW wedi ei fodloni y caiff y prosiect ei redeg yn y modd a gynigiwyd, neu ar ôl cytuno ynghylch unrhyw newidiadau. Ni ellir talu grantiau nes i CC . AW dderbyn cadarnhad gan y corff sy’n lletya’r fenter ei fod wedi codi cyllid cyfwerth.

Nid yw Prosiectau Artistiaid Preswyl yn:

  • Ffordd o gynhyrchu incwm refeniw (costau rhedeg) ychwanegol
  • Ffordd o dalu am aelod ychwanegol o staff
  • Ffordd rad o wella adeilad neu ofod â chelf gyhoeddus.

 

Gogledd a Chanolbarth Cymru

Stephen West (Pennaeth Preswylfeydd)
- i drafod cyniogion prosiect yng ngogledd a
chanolbarth Cymru.
stephen@cywaithcymru.org
neu
Dolpebyll
Llangadfan
Welshpool
Powys
SY21 0PU

Ffon/Ffacs 01938 820147

 

Walt Warrilow

walt@cywaithcymru.org

De a Gorllewin Cymru

Cywaith Cymru . Artworks Wales
Ty Crichton
11-12 Sgwar Mount Stuart
Caerdydd CF10 5EE

Ffon: 02920 489 543
Ffacs: 02920 465 458

Nicholas McDonald
- am ymholiadau AP
info@cywaithcymru.org

Noleen Mathias (Gweinyddydd Ariannol)
- am daliadau ac ymholiadau ariannol
noleen@cywaithcymru.org


 


<< nôl
| manylion pellach>>