Treading Softly, Bardsey Island, Artist Clare
Barber, pic ©  Clare Barber.
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Cywaith Cymru.Artworks Wales
Ty Crichton
11-12 Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5EE
Ffôn: 029 2048 9543
Ffacs: 029 2046 5458
  cyflwyniad comisiynau artististiad preswyl swyddi prosiectau arbennig adran y wasg map y gwefan cysylltwch archif

Rhaglen Artistiaid Preswyl (AP)

Cywaith Cymru . Artworks Wales yw’r corff cenedlaethol ar gyfer celfyddyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae’r Rhaglen Artistiaid Preswyl yn cynnig i gymunedau ac artistiaid ledled Cymru y cyfle i weithio gyda’i gilydd. Carem gefnogi ceisiadau gan gymunedau, grwpiau a mudiadau o’r blaen yn ogystal â rhai sydd eisoes wedi gwneud hynny.

Mae prosiectau artistiaid preswyl yn galluogi pobl o bob cefndir i gwrdd ag artistiaid a gweld eu gwaith ar y gweill drostynt eu hunain, sydd yn taflu goleni ar y ffyrdd y bydd artistiaid yn datblygu eu gwaith. Maent hefyd yn cynnig cyfle i gyfranogi yn greadigol a dysgu medrau newydd.

 Mae artistiaid yn gweithio mewn amrywiaeth eang iawn o gyfryngau, gan gynnwys peintio, gwneuthur printiau, cerflunio, celf tir, mewnosodiadau, perfformio, ffilm, fideo, ffotograffiaeth, technolegau newydd, bywddarlunio, cerameg, gwaith haearn, gweolion, ac ati.

 Daw prosiectau Artistiaid Preswyl (AP) i fod mewn amryfal ffyrdd. Ceisiwn restru nifer o gategorïau isod, ond derbyniwn nad yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

- Preswylfeydd cymuned – artistiaid yn gweithio mewn lleoliad yn y gymuned; llyfrgell, clwb ieuenctid, neuadd bentre/ canolfan gymyned, neu gyda mudiadau cymuned

- Artistiaid mewn lleoliadau sefydliadol, e.e. ysbytai, carchardai, colegau, cartrefi preswyl, ac ati.

- Artistiaid yn yr amgylchedd, e.e. mewn partneriaeth â chyrff fel Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Parciau Cenedlaethol, ac awdurdodau lleol.

-Artistiaid mewn lleoliadau ym maes y celfyddydau e.e. canolfannau celfyddydau ac orielau celf

- Preswylfeydd rhyngwladol – artist yn dod o wlad arall i weithio gydag artistiaid/ cymunedau yng Nghymru

- Artistiaid yn y gweithle

-Artistiaid mewn ysgolion – artist yn gweithio fel rhan o gymuned ysgol, fel arfer gyda grwpiau neu ddosbarthiadau neilltuol.

Mae’r Rhaglen Artistiaid Preswyl yn cynnwys mudiadau amrywiol rheolaeth prosiectau, gwasanaeth cynghori yn ogystal â cynllun grantiau.

Mae pob prosiect yn cael ei hysbysebu’n lleol ac yn genedlaethol drwy CC . AW ac fe roddir y manylion ar ein safwe. Yn ogystal fe ddanfonir manylion am y prosiect at artistiaid â’r sgiliau perthnasol.

Penodi Artist

Fe ddewisir yr artist drwy broses o gyfweliad mewn cydweithrediad rhwng CC . AW a’r mudiad cynhaoliol. Er fod CC . AW yn gallu rhoddi cyngor trwy gydol y broses gyfweld y sawl sy’n cynnal y breswylfa sy’n gwneud y penderfyniad terfynol.


manylion pellach>>